Leviticus 25

Blwyddyn canslo dyledion

(Deuteronomium 15:1-11)

1Pan oedd Moses ar Fynydd Sinai dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho: 2“Dywed wrth bobl Israel:

“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, rhaid i'r tir gadw Saboth i'r Arglwydd a gorffwys.
3Cewch hau eich had a thrin eich gwinllannoedd a chasglu'r cnydau am chwe mlynedd. 4Ond mae'r seithfed flwyddyn i fod yn Saboth i'r Arglwydd – blwyddyn i'r tir orffwys. Does dim hau i fod, na thrin gwinllannoedd. 5Rhaid i chi beidio casglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'r tir i gael gorffwys yn llwyr am flwyddyn. 6Ond mae'n iawn i unigolion fwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun – chi'ch hunain, y dynion a'r merched sy'n gaethweision, y bobl sy'n cael eu cyflogi gynnoch chi, ac unrhyw fewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi. 7Mae yna i'ch anifeiliaid ei fwyta hefyd, a'r anifeiliaid gwylltion sy'n byw ar y tir.

Blwyddyn y Rhyddhau Mawr

8“Bob pedwar deg naw mlynedd (sef saith Saboth o flynyddoedd – saith wedi ei luosi gyda saith), 9ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis,
25:9 seithfed mis gw. y sylw ar 16:29.
sef y diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn, rhaid canu'r corn hwrdd
25:9 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
drwy'r wlad i gyd.
10Rhaid cyhoeddi fod y flwyddyn wedyn, sef yr hanner canfed flwyddyn, wedi ei chysegru. Dyma flwyddyn y rhyddhau mawr i bawb drwy'r wlad i gyd – blwyddyn o ddathlu. Mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl, ac i fynd yn ôl at ei deulu estynedig. 11Mae hon i fod yn flwyddyn o ddathlu mawr. Rhaid i chi beidio hau na chasglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. 12Mae'n flwyddyn o ddathlu, wedi ei chysegru. Mae unigolion i gael bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun.

13“Yn y flwyddyn yma mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl. 14Os ydy rhywun yn gwerthu eiddo, neu'n prynu gan gyd-Israeliad, rhaid bod yn gwbl deg a pheidio cymryd mantais. 15Dylai'r pris gael ei gytuno ar sail faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers blwyddyn y rhyddhau, a nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. 16Os oes blynyddoedd lawer i fynd, bydd y pris yn uwch. Os mai ychydig o flynyddoedd sydd i fynd bydd y pris yn is. Beth sy'n cael ei werthu go iawn ydy nifer y cnydau fydd y tir yn ei roi. 17Peidiwch cymryd mantais o rywun arall. Ofnwch eich Duw. Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi.

18“Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i'n ffyddlon. Cewch fyw yn saff yn y wlad wedyn. 19Bydd y tir yn rhoi digon i chi ei fwyta, a cewch fyw yn saff. 20Peidiwch poeni na fydd digon i'w fwyta yn y seithfed flwyddyn, pan dych chi ddim i fod i hau na chasglu cnydau. 21Bydda i'n gwneud yn siŵr fod cnwd y chweched flwyddyn yn ddigon i bara am dair blynedd. 22Byddwch chi'n dal i fwyta o gnydau y chweched flwyddyn pan fyddwch chi'n hau eich had yn yr wythfed flwyddyn. Bydd digon gynnoch chi tan y nawfed flwyddyn pan fydd y cnwd newydd yn barod i'w gasglu.

23“Dydy tir ddim i gael ei werthu am byth. Fi sydd piau'r tir. Mewnfudwyr neu denantiaid sy'n byw arno dros dro ydych chi. 24Pan mae tir yn cael ei werthu, rhaid i'r gwerthwr fod â'r hawl i'w brynu yn ôl.

25“Os ydy un o'ch pobl chi yn mynd mor dlawd nes bod rhaid iddo werthu peth o'i dir, mae gan ei berthynas agosaf hawl i ddod a prynu'r tir yn ôl. 26Lle does dim perthynas agosaf yn gallu prynu'r tir, mae'r gwerthwr ei hun yn gallu ei brynu os ydy e'n llwyddo i ennill digon o arian i wneud hynny. 27Dylai gyfri faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers iddo werthu'r tir, talu'r gwahaniaeth i'r person wnaeth ei brynu, a chymryd y tir yn ôl. 28Os nad oes ganddo ddigon i brynu ei dir yn ôl, mae'r tir i aros yn nwylo'r prynwr hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. Bydd yn ei gael yn ôl beth bynnag y flwyddyn honno.

29“Os ydy rhywun yn gwerthu tŷ mewn tref sydd â wal o'i chwmpas, mae ganddo hawl i brynu'r tŷ yn ôl o fewn blwyddyn ar ôl iddo ei werthu. 30Os nad ydy'r tŷ yn cael ei brynu'n ôl o fewn blwyddyn, mae'r prynwr a'i deulu yn cael cadw'r tŷ am byth. Fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr. 31Ond mae tŷ mewn pentref agored (sydd heb wal o'i gwmpas) i gael ei drin yr un fath â darn o dir. Mae'r un hawliau i'w brynu'n ôl, a bydd yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol ar flwyddyn y rhyddhau mawr.

32“Mae'r sefyllfa'n wahanol i'r Lefiaid. Mae ganddyn nhw hawl i brynu tai sy'n eu trefi nhw yn ôl unrhyw bryd. 33Bydd unrhyw dŷ sydd wedi cael ei werthu yn un o'i trefi nhw, yn cael ei roi'n ôl iddyn nhw ar flwyddyn y rhyddhau, am mai'r tai yma ydy eu heiddo nhw. 34A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser.

Helpu'r tlawd

35“Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd. 36Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi. 37Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo. 38Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi.

39“Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu ei hun yn gaethwas i chi, c peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas. 40Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. 41Ar ôl hynny bydd e a'i blant yn rhydd i fynd yn ôl at eu teulu a'u heiddo. 42Fy ngweision i ydyn nhw. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Felly dŷn nhw ddim i gael eu gwerthu fel caethweision. 43Peidiwch bod yn greulon wrthyn nhw. Dangoswch barch at eich Duw.

44“Os oes gynnoch chi eisiau dynion neu ferched yn gaethweision, dylech chi eu prynu nhw o'r gwledydd eraill sydd o'ch cwmpas. 45Cewch brynu plant mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi hefyd – hyd yn oed y rhai sydd wedi eu geni a'u magu yn eich gwlad chi. Gallan nhw fod yn eiddo i chi. 46Cewch eu pasio ymlaen i'ch plant yn eich ewyllys hefyd. Cewch eu cadw nhw yn gaethweision am byth. Ond cofiwch, does gan neb hawl i drin un o bobl Israel yn greulon.

47“Dwedwch fod un o'r mewnfudwyr, rhywun sydd ddim yn un o bobl Israel, yn llwyddo ac yn dod yn gyfoethog iawn. Mae un o bobl Israel sy'n byw yn yr un ardal yn colli popeth, ac mor dlawd nes ei fod yn gwerthu ei hun yn gaethwas i'r person sydd ddim yn dod o Israel, neu i un o'i deulu. 48Mae'n dal ganddo'r hawl i brynu ei ryddid. Gall un o'i frodyr brynu ei ryddid, 49neu ewyrth neu gefnder, neu'n wir unrhyw un o'r teulu estynedig. Neu os ydy e'n llwyddo i wneud arian, gall brynu ei ryddid ei hun. 50Dylai dalu am y blynyddoedd sydd rhwng y flwyddyn wnaeth e werthu ei hun a blwyddyn y rhyddhau mawr. Dylai'r pris fod yr un faint â beth fyddai gweithiwr yn cael ei gyflogi wedi ei ennill y blynyddoedd hynny. 51Os oes nifer fawr o flynyddoedd i fynd bydd y pris yn uchel, 52ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl bydd y pris yn is. 53Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon. 54Os nad oes rhywun yn prynu ei ryddid, mae'n dal i gael mynd yn rhydd ar flwyddyn y rhyddhau mawr – y dyn a'i blant gydag e. 55Fy ngweision i ydy pobl Israel. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Fi ydy'r Arglwydd eich Duw chi.

Copyright information for CYM